Sut bydd system Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) newydd yr Eglwys Fethodistaidd yn gweithio yng Nghymru?

Mae’r system newydd yn defnyddio system gwneud cais a rheoli ceisiadau ar-lein, ynghyd â’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Archwilio Diwydrwydd Dyladwy (DDC) cyfeillgar a chefnogol sydd ar gael i’ch helpu. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gysylltu â’r DDC.

I Ddilyswyr yr Eglwys Fethodistaidd, yn dilyn penderfyniad yr Eglwys, yr unig ffordd i ofyn am archwiliadau a’u cynnal yw drwy system gwneud cais ar-lein, ac mae sawl ffordd o wneud hyn. Yn anffodus, nid yw’r DBS yn caniatáu ceisiadau ar-lein yn Gymraeg, ac felly rhaid cyflwyno’r holl ffurflenni electronig yn Saesneg. Cyhoeddir y Dystysgrif yn Saesneg hefyd.

Ffurflenni Cymraeg

Mae’r Tîm Diogelu Cyfundebol wedi gofyn i’r DDC gynhyrchu’r dudalen we hon i esbonio sut bydd y broses yn gweithio ar gyfer unrhyw ymgeisydd sy’n awyddus i wneud cais yn Gymraeg. Mae gan Swyddog Diogelu Synod Cymru gyflenwad o ffurflenni cais Cymraeg gyda nodiadau canllaw cyfatebol. Dylech gysylltu â’r person hwn, a fydd yn rhoi ffurflen i chi ei chwblhau ynghyd â nodiadau canllaw. Bydd y nodiadau hyn yn cynnwys canllawiau ar ble i fynd â’ch dogfennau gwreiddiol i’w dilysu. Bydd hyn gyda Dilyswr eich Cylchdaith neu’ch Synod.

Cliciwch yma i weld y dogfennau hunaniaeth yn gyffredinol ar gael, a’r llwybrau a ddefnyddir yn y broses ymgeisio

Trosglwyddo i’r system ar-lein

Unwaith y bydd pecyn cais wedi’i gwblhau yn cael ei ddychwelyd, bydd Dilyswr y Gylchdaith neu’r Synod yn trosglwyddo eich manylion ar system ar-lein y DDC ac yn cyflwyno eich gwybodaeth yn llawn yn unol â hynny. Yna fe gewch chi e-bost yn uniongyrchol gan DDC yn Saesneg, i gadarnhau bod eich Tystysgrif wedi’i chyhoeddi. Dylech nodi y bydd y Dystysgrif a gewch chi gan y DBS yn Saesneg hefyd.

Beth sy’n digwydd os bydd fy Nhystysgrif yn cynnwys gwybodaeth sydd angen cael ei hadolygu?

Yn gyntaf, dylech roi gwybod i Swyddog Diogelu eich Synod am hyn. Bydd y Swyddog hwnnw’n cysylltu â chi unwaith y bydd y DBS wedi cyhoeddi eich tystysgrif ac wedi cadarnhau bod gwybodaeth i’w hadolygu. Bydd angen i chi wedyn gyflwyno eich tystysgrif yn bersonol i un o’r cynrychiolwyr Diogelu Methodistaidd a enwir.

Cliciwch yma i ddychwelyd i’r wefan Saesneg

Yn ôl