Sut bydd system Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) newydd yr Eglwys Fethodistaidd yn gweithio yng Nghymru?
Mae’r system newydd yn defnyddio system gwneud cais a rheoli ceisiadau ar-lein, ynghyd â’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Archwilio Diwydrwydd Dyladwy (DDC) cyfeillgar a chefnogol sydd ar gael i’ch helpu. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gysylltu â’r DDC.
I Ddilyswyr yr Eglwys Fethodistaidd, yn dilyn penderfyniad yr Eglwys, yr unig ffordd i ofyn am archwiliadau a’u cynnal yw drwy system gwneud cais ar-lein, ac mae sawl ffordd o wneud hyn. Yn anffodus, nid yw’r DBS yn caniatáu ceisiadau ar-lein yn Gymraeg, ac felly rhaid cyflwyno’r holl ffurflenni electronig yn Saesneg. Cyhoeddir y Dystysgrif yn Saesneg hefyd.
Ffurflenni Cymraeg
Mae’r Tîm Diogelu Cyfundebol wedi gofyn i’r DDC gynhyrchu’r dudalen we hon i esbonio sut bydd y broses yn gweithio ar gyfer unrhyw ymgeisydd sy’n awyddus i wneud cais yn Gymraeg. Mae gan Swyddog Diogelu Synod Cymru gyflenwad o ffurflenni cais Cymraeg gyda nodiadau canllaw cyfatebol. Dylech gysylltu â’r person hwn, a fydd yn rhoi ffurflen i chi ei chwblhau ynghyd â nodiadau canllaw. Bydd y nodiadau hyn yn cynnwys canllawiau ar ble i fynd â’ch dogfennau gwreiddiol i’w dilysu. Bydd hyn gyda Dilyswr eich Cylchdaith neu’ch Synod.
Trosglwyddo i’r system ar-lein
Unwaith y bydd pecyn cais wedi’i gwblhau yn cael ei ddychwelyd, bydd Dilyswr y Gylchdaith neu’r Synod yn trosglwyddo eich manylion ar system ar-lein y DDC ac yn cyflwyno eich gwybodaeth yn llawn yn unol â hynny. Yna fe gewch chi e-bost yn uniongyrchol gan DDC yn Saesneg, i gadarnhau bod eich Tystysgrif wedi’i chyhoeddi. Dylech nodi y bydd y Dystysgrif a gewch chi gan y DBS yn Saesneg hefyd.
Beth sy’n digwydd os bydd fy Nhystysgrif yn cynnwys gwybodaeth sydd angen cael ei hadolygu?
Yn gyntaf, dylech roi gwybod i Swyddog Diogelu eich Synod am hyn. Bydd y Swyddog hwnnw’n cysylltu â chi unwaith y bydd y DBS wedi cyhoeddi eich tystysgrif ac wedi cadarnhau bod gwybodaeth i’w hadolygu. Bydd angen i chi wedyn gyflwyno eich tystysgrif yn bersonol i un o’r cynrychiolwyr Diogelu Methodistaidd a enwir.
Cliciwch yma i ddychwelyd i’r wefan Saesneg
Yn ôl